{I'r anfwyn-was adorrai'r eoslwyn}
1 Madoc ap Gryffyth wyddaer
2 medri aur glod mydr arfglaer
3 Cynnydd Morda ne Rydderch
4 Can-wyr y synwyr ar serch
5 Cywirach oeddit no neb
6 Cywairdant y cywirdeb
7 Ti a ddaethost at ddafydd
8 ap Gwilym a gwawd rym rydd
9 Ai cof oll ein cyfeillach
10 a'n cwyn am y bedwlwyn bach
11 Amau'r wyfi ei ddiosc
12 heb ymladd heb ladd heb losc
13 O eiddig oerfel iddaw
14 ai gaib, wb oi raib, a raw
15 Afraid it ddol trymfryd
16 Am bren na bedwen o'r byd
17 Dra attai dduw y celyn
18 nis llysc ac nid diysc dyn
19 Ac er a ddel a ddryghin
20 Ni bydd llwm na chrwm na chrîn
21 Ti a gwynit dioer yn llwyr
22 be darffai it byd orffwyr
23 A ddarfu im mau lym lid
24 Nod mwy ofn, neud mau ofid
25 Nid oedd i'm o ddiddanwch
26 Na dyguddiant trachwant trwch
27 Na cherdd ar fedwen wen wiw
28 Ond eos loew-dlos lwyd-liw
29 Ef a beris gwr o'm gwlad
30 I thittio ond aeth attad
31 Synnia arni os gwely
32 Ysofwraig mydr gaer hydr hy
33 [13v] Serchoc y can dan y dail
34 Salm wiw is helm o wiail
35 Dehol-wraig arfynnaic fwyn
36 da ffith-len mewn diffeith lwyn
37 Cloch aberth y serchogion
38 Claer chweg a theg yw ei thôn
39 Bangaw fydd ei hun ben-gerdd
40 ar flaen y wialen werdd
41 Boreu-wraig serch ferch firain
42 burddu drem vwch byrddau drain
43 chwaer Gehelyn befrddyn bach
44 Chwibanogl chwe buanach
45 Meistres organau maestran
46 no chant or cildant y can
47 Ni adewis yng-Wynedd
48 er pan aeth ond waeth-waeth wedd
49 lladrones bach llwyd ronell
50 latai ni weddai vn well
51 Poed ar ddor y pilori
52 Amen fyth o mynnaf i
53 Y dotter gynifer vn
54 ai ditiodd yng-hoed Eutun
55 Yn y fro tra fynno trig
56 Yno deil y nadolig
57 Bydd serchocaf lle y bo
58 da gitorn duw ai gatto
dd' ap Gwilym